Amdanom ni

bechgyn bro taf

Côr meibion o Gaerdydd yw bbt.

Côr gwahanol.

nadolig-2013-2-smallYdym, rydym yn canu emynau a chaneuon rygbi. Ond rydym hefyd yn canu caneuon y Dadeni, caneuon o’r sioeau, gospel, swing, jazz a gwerin. Ac ambell i gân bop. Mae ein dehongliad o’r Beach Boys yn werth ei glywed!

Gydag arweinydd ifanc newydd, rydym wrthi’n ychwanegu darnau arallfydol gan gyfansoddwyr diweddar i’n repertoire.

Mae gennym rywbeth at ddant pawb, mewn geiriau eraill. Rydym yn perfformio’n rheolaidd mewn eisteddfodau cenedlaethol a lleol, gemau rygbi rhyngwladol, cyngherddau elusennol, partion preifat a phriodasau. Dim gwahoddiadau i bar mitzvahs eto, ond rydym yn byw mewn gobaith.

Dewch i ymuno â ni yn ein hymarfer bob nos Sul yng Nghapel Salem, Treganna, neu ein llogi ar gyfer eich cyngerdd. Cysylltwch â corbbt@gmail.com.

.