Cystadleuaeth Corau Tenor/Bas
Mae Bechgyn Bro Taf wrth eu bodd yn cyhoeddi ein bod wedi ennill Cystadleuaeth Corau Meibion yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Roedd y safon yn eithriadol o uchel, ac roedd yn fraint rhannu'r llwyfan gyda chorau meibion talentog o bob rhan o Gymru. Mae'r fuddugoliaeth hon yn dyst i ymroddiad, gwaith caled ac angerdd ein haelodau, sydd wedi gweithio'n ddiflino dros y misoedd diwethaf i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.
Hoffem ddiolch yn arbennig i Richard Vauhgan - ein Cyfarwyddwr Cerdd - am ei arweiniad a'i weledigaeth, yn ogystal â'n cyfeilydd - Ffion Rhisiart - am ei chefnogaeth a'i proffesiynoldeb. Mae eu cyfraniad wedi bod yn allweddol i'n llwyddiant.
Mae'r wobr hon yn garreg filltir bwysig arall yn hanes y côr, ond yn fwy na dim, mae'n adlewyrchu'r cyfeillgarwch, yr ymrwymiad a'r mwynhad sy'n rhan annatod o fod yn aelod o Fechgyn Bro Taf.
Wrth i ni ddathlu'r llwyddiant hwn, rydym eisoes yn edrych ymlaen at y tymor sydd o'n blaenau, gyda chyngherddau a phrosiectau cyffrous ar y gweill - yn cynnwys taith I Canada yn y flwyddyn newydd. Cadwch lygad ar ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.
Llongyfarchiadau mawr i'r 1
1 côr a gymerodd ran yn y gystadleuaeth, yn enwedig Ar Ôl Tri (2il) a Meibion Bro Taf (3ydd)


