Cymru v Siapan

Llun cyn y gem - prematch photo

Roedd dydd Sadwrn diwethaf yn ddiwrnod arbennig iawn i Fechgyn Bro Taf, wrth i ni gael y fraint o ganu yn Stadiwm Principality cyn gêm ryngwladol rygbi Cymru yn erbyn Siapan.

Ymunodd Côr Meibion Dyffryn Aman, Côr Meibion Taf a Band Catrodol Corfflu a Drymiau’r Cymry Brenhinol gyda ni ar y cae, gyda’n harweinydd, Richard Vaughan, yn arwain y perfformiad cyfan. Mae Richard wedi camu i’r adwy dros dro yn lle Dr Haydn James, i arwain y corau ar y cae yn ystod gemau rhyngwladol yr hydref hwn.

I lawer ohonom, dechreuodd y diwrnod gyda diod yn y City Arms i iro’r llwnc

cyn mynd draw i’r stadiwm ar gyfer yr ymarferion. Y darn cyntaf i’w ymarfer oedd Gwahoddiad, y byddem yn ei chanu ar ein pennau ein hunain fel côr wrth i dorchau Sul y Cofio gael eu gosod. Wedyn, roedd hi’n ôl i grombil yr eisteddle i ymarfer gweddill y rhaglen gyda’r band a’r ddau gôr arall. Rhaid dweud, mae’r sain mae tri chôr meibion a band pres yn ei wneud yn y gofod ym mherfeddion y stadiwm yn anhygoel!

Ar ôl yr ymarferion, cawsom gyfle i ymlacio, sgwrsio ag aelodau’r corau eraill a mwynhau’r awyrgylch cyn yr eiliad fawr. Mae cerdded allan ar gae’r stadiwm yn brofiad arbennig bob tro, ac roedd hi’n gyfle i nifer o’n haelodau ennill eu cap rhyngwladol cyntaf a phrofi’r wefr unigryw honno. Aeth y canu’n wych, yn union fel y bwriadwyd. Roedd hynny’n amlwg o’r wên lydan ar wyneb Rich drwy’r dydd!

Ar ôl y canu, cawsom gyfle i fwynhau’r gêm, ac yn well fyth, gweld Cymru’n sicrhau buddugoliaeth dros Siapan. Yna ymlaen â ni i Glwb Rygbi Caerdydd drws nesa’ am beint neu ddau ac, wrth gwrs, cân neu ddwy!

I goroni’r diwrnod, aeth y Bechgyn ymlaen i Dreganna am bryd o fwyd yn yr Happy Gathering – unrhyw esgus i ddathlu pen-blwydd y côr yn 20 oed eleni. Ac roedd cyfle yno i fwynhau’r crispy duck enwog, sy’n rhan o’n traddodiad ers rhai blynyddoedd bellach.

Diwrnod yn llawn cerddoriaeth, cyfeillgarwch, cyfeddach - un arall i’w gofio gyda balchder i Fechgyn Bro Taf!


Wales v Japan

Last Saturday was a fantastic day for Bechgyn Bro Taf as we took our place at the Principality Stadium as one of the three choirs performing before the Cymru v Japan international rugby match.

Joining us on the pitch were Côr Meibion Dyffryn Aman, Côr Meibion Taf and the Regimental Band Corps and Drums of the Royal Welsh. Leading the combined performers was none other than our own musical director, Richard Vaughan. Richard has temporarily stepped into the shoes of Dr Haydn James and is conducting the choirs on the pitch for this autumn's internationals.

For many of us, the day began at the City Arms for some ‘lubrication’ before making our way to the stadium for rehearsals. Our first task was to rehearse Gwahoddiad, which we would perform on our own while the Remembrance wreaths were laid. Following that, it was back underneath the stands to rehearse the rest of the programme with the band and the other two choirs. It has to be said, the sound that three male voice choirs and a brass band can create in that space in the depths of the stadium is insane!

Once rehearsals were complete, there was time to relax and catch up with members of the other choirs before the main event. It is always a privilege to step onto the famous green, green grass of the Principality Stadium pitch.

Several of our choristers were earning their "first caps" on the international stage & experiencing that special buzz for the very first time. The singing went exactly to plan – we could tell because Rich didn’t stop smiling all day!

After the performances, we enjoyed the match & especially the Wales win, before making our way next door to the Cardiff RFC clubhouse for a couple of drinks and an impromptu singsong.

We rounded the day off in style with a visit to Canton’s Happy Gathering for a succulent Chinese meal – any excuse to celebrate the choir’s 20th year this year. As is tradition for the boys, it was ‘Crispy Duck’ all round... well, almost!

A wonderful day of forte, friendship and food, and another proud occasion for Bechgyn Bro Taf.